No themes applied yet
1Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun. 2Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw. 3A’i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog. 4Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran. 5Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef. 6Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi. 7Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb. 8Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall. 9Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn. 10Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl. 11Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â’ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau. 12Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef: 13Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn. 14Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â’ch geiriau chwi. 15Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru. 16Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,) 17Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl. 18Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. 19Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. 20Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. 21Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn. 22Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y’m cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.