No themes applied yet
1Gwedi i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion. 2A Jwdas hefyd, yr hwn a’i bradychodd ef, a adwaenai’r lle: oblegid mynych y cyrchasai’r Iesu a’i ddisgyblion yno. 3Jwdas gan hynny, wedi iddo gael byddin a swyddogion gan yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. 4Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? 5Hwy a atebasant iddo, Iesu o Nasareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyda hwynt. 6Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. 7Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nasareth. 8Yr Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith: 9Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i’r un. 10Simon Pedr gan hynny a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef: ac enw’r gwas oedd Malchus. 11Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwpan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef? 12Yna’r fyddin, a’r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef, 13Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. 14A Chaiaffas oedd yr hwn a gyngorasai i’r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall: a’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, ac efe a aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad. 16A Phedr a safodd wrth y drws allan. Yna y disgybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn. 17Yna y dywedodd y llances oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf. 18A’r gweision a’r swyddogion, gwedi gwneuthur tân glo, oherwydd ei bod hi’n oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymo: ac yr oedd Pedr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymo.
19A’r archoffeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth. 20Yr Iesu a atebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae’r Iddewon yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. 21Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i. 22Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r swyddogion a’r oedd yn sefyll gerllaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti’n ateb yr archoffeiriad? 23Yr Iesu a atebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i? 24Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Caiaffas yr archoffeiriad. 25A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymo. Hwythau a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf. 26Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, (câr i’r hwn y torasai Pedr ei glust,) Oni welais i di gydag ef yn yr ardd? 27Yna Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
28Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaffas i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; eithr fel y gallent fwyta’r pasg. 29Yna Peilat a aeth allan atynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? 30Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. 31Am hynny y dywedodd Peilat wrthynt, Cymerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb: 32Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocáu o ba angau y byddai farw. 33Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? 34Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi? 35Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? 36Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. 37Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. 38Peilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef. 39Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhydd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 40Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas. A’r Barabbas hwnnw oedd leidr.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.