No themes applied yet
1Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias. 2A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion. 3A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion. 4A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn, agos.
5Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta? 6(A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) 7Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig. 8Un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr, 9Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth yw hynny rhwng cynifer? 10A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mil o nifer. 11A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. 12Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. 13Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent. 14Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd.
15Yr Iesu gan hynny, pan wybu eu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynydd, ei hunan yn unig. 16A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr. 17Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r Iesu ni ddaethai atynt hwy. 18A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. 19Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant. 20Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch. 21Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.
22Trannoeth, pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i’r môr, nad oedd un llong arall yno ond yr un honno i’r hon yr aethai ei ddisgyblion ef, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong, ond myned o’i ddisgyblion ymaith eu hunain; 23(Eithr llongau eraill a ddaethent o Diberias yn gyfagos i’r fan lle y bwytasent hwy fara, wedi i’r Arglwydd roddi diolch:) 24Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu. 25Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? 26Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. 27Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad. 28Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? 29Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. 30Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? 31Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta. 32Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. 33Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. 35A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser. 36Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. 37Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. 38Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. 39A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf. 40A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 41Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef. 42A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais? 43Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd. 44Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf. 45Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. 46Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. 47Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol. 48Myfi yw bara’r bywyd. 49Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. 50Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. 51Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd. 52Yna yr Iddewon a ymrysonasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta? 53Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch. 54Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf. 55Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir. 56Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau. 57Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi. 58Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd. 59Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapernaum. 60Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno? 61Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi? 62Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen? 63Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt. 64Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef. 65Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.
66O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef. 67Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith? 68Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol. 69Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod mai tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw. 70Iesu a’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol? 71Eithr efe a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.