No themes applied yet
1Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain: 2Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon; 3Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth-jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth-pisga: 4A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei; 5Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon. 6Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
7Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau; 8Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:
9Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un; 10Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un; 11Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un; 12Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un; 13Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un; 14Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un; 15Brenin Libna, yn un; brenin Adulam, yn un; 16Brenin Macceda, yn un; brenin Bethel, yn un; 17Brenin Tappua, yn un; brenin Heffer, yn un; 18Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un; 19Brenin Madon, yn un; brenin Hasor, yn un; 20Brenin Simron-meron, yn un; brenin Achsaff, yn un; 21Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un; 22Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un; 23Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un; 24Brenin Tirsa, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.