No themes applied yet
1A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua’r deau, oedd eithaf y terfyn deau. 2A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau. 3Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades-barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa. 4Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau. 5A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen. 6A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth-hogla, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth-araba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben. 7A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En-semes, a’i gwr eithaf sydd wrth En-rogel. 8A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua’r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua’r gogledd. 9A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath-jearim. 10A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth-semes, ac yn myned i Timna. 11A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr. 12A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.
13Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer-arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron. 14A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac. 15Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-seffer.
16A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig. 17Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig. 18A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? 19A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf. 20Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.
21A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur, 22Cina hefyd, a Dimona, ac Adada, 23Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan, 24A Siff, a Thelem, a Bealoth, 25A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor, 26Ac Amam, a Sema, a Molada, 27A Hasar-gada, a Hesmon, a Beth-palet, 28A Hasar-sual, a Beer-seba, a Bisiothia, 29Baala, ac Iim, ac Asem, 30Ac Eltolad, a Chesil, a Horma, 31A Siclag, a Madmanna, a Sansanna, 32A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd. 33Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna, 34A Sanoa, ac En-gannim, Tappua, ac Enam, 35Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca, 36A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 37Senan, a Hadasa, a Migdal-gad, 38A Dilean, a Mispe, a Joctheel, 39Lachis, a Boscath, ac Eglon, 40Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis, 41A Gederoth, Beth-dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 42Libna, ac Ether, ac Asan, 43A Jiffta, ac Asna, a Nesib, 44Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi. 45Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd: 46O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd: 47Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.
48Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Socho, 49A Danna, a Ciriath-sannath, honno yw Debir, 50Ac Anab, ac Astemo, ac Anim, 51A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd. 52Arab, a Duma, ac Esean, 53A Janum, a Beth-tappua, ac Affeca, 54A Humta, a Chaer-arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd. 55Maon, Carmel, a Siff, a Jutta, 56A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa, 57Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 58Halhul, Beth-sur, a Gedor, 59A Maarath, a Beth-anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 60Ciriath-baal, honno yw Ciriath-jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pentrefydd.
61Yn yr anialwch; Beth-araba, Midin, a Sechacha, 62A Nibsan, a dinas yr halen, ac En-gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 63Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.