No themes applied yet
1Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel; 2Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchmynnodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a’u meysydd pentrefol i’n hanifeiliaid. 3A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol. 4A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o’r Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren. 5Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren. 6Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren. 7I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd. 8A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn, a’u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.
9A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau; 10Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf. 11A rhoddasant iddynt Gaer-arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd-dir Jwda, a’i meysydd pentrefol oddi amgylch. 12Ond maes y ddinas, a’i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.
13Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meysydd pentrefol, yn ddinas nodded i’r llofrudd; a Libna a’i meysydd pentrefol, 14A Jattir a’i meysydd pentrefol, ac Estemoa a’i meysydd pentrefol, 15A Holon a’i meysydd pentrefol, a Debir a’i meysydd pentrefol, 16Ac Ain a’i meysydd pentrefol, a Jwtta a’i meysydd pentrefol, a Beth-semes a’i meysydd pentrefol: naw dinas o’r ddau lwyth hynny. 17Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a’i meysydd pentrefol, a Geba a’i meysydd pentrefol, 18Anathoth a’i meysydd pentrefol, ac Almon a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 19Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.
20A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim. 21A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a’i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a’i meysydd pentrefol, 22A Cibsaim a’i meysydd pentrefol, a Beth-horon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd. 23Ac o lwyth Dan, Eltece a’i meysydd pentrefol, Gibbethon a’i meysydd pentrefol. 24Ajalon a’i meysydd pentrefol, Gath-rimmon a’i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd. 25Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a’i meysydd pentrefol, a Gath-rimmon a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas. 26Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a’u meysydd pentrefol.
27Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol, a Beestera a’i meysydd pentrefol: dwy ddinas. 28Ac o lwyth Issachar, Cison a’i meysydd pentrefol, Dabareth a’i meysydd pentrefol, 29Jarmuth a’i meysydd pentrefol, En-gannim a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 30Ac o lwyth Aser, Misal a’i meysydd pentrefol, Abdon a’i meysydd pentrefol, 31Helcath a’i meysydd pentrefol, a Rehob a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 32Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol, a Hammoth-dor a’i meysydd pentrefol: tair dinas. 33Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a’u meysydd pentrefol.
34Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o’r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a’i meysydd pentrefol, a Carta a’i meysydd pentrefol, 35Dimna a’i meysydd pentrefol, Nahalal a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 36Ac o lwyth Reuben, Beser a’i meysydd pentrefol, a Jahasa a’i meysydd pentrefol, 37Cedemoth a’i meysydd pentrefol, Meffaath a’i meysydd pentrefol: pedair dinas. 38Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol, a Mahanaim a’i meysydd pentrefol, 39Hesbon a’i meysydd pentrefol, Jaser a’i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl. 40Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas. 41Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a’u meysydd pentrefol. 42Y dinasoedd hyn oedd bob un â’u meysydd pentrefol o’u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.
43A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi. 44Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt. 45Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.