No themes applied yet
1Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, 2Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi. 3Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw. 4Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen. 5Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi; sef caru yr Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchmynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. 6A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.
7Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyda’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt; 8Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phres hefyd, ac â haearn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion.
9A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddianasant, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
10A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.
11A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel. 12A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel. 13A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad, 14A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel. 15A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd, 16Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr Arglwydd, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd? 17Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr Arglwydd, 18Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel. 19Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw. 20Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd, oherwydd y diofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.
21Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel; 22Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,) 23Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr Arglwydd ei hun a’i gofynno: 24Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel? 25Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnâi eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd. 26Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth; 27Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â’n poethoffrymau, ac â’n hebyrth, ac â’n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. 28Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi. 29Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef.
30A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt. 31Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr Arglwydd.
32Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt. 33A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel; a meibion Israel a fendithiasant Dduw, ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi. 34A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr Arglwydd sydd Dduw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.