No themes applied yet
1A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron Duw. 2A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr. 3Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac. 4Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft. 5A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan, 6Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch. 7A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer. 8A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi. 9Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melltigo chwi. 10Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef. 11A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi. 12A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi, a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa. 13A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.
14Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd. 15Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd. 16Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dieithr; 17Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith: 18A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni. 19A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau. 20O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni. 21A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd. 22A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym. 23Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel. 24A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn. 25Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.
26A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymerth faen mawr, ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd. 27A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw. 28Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.
29Ac wedi’r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant. 30A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. 31Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.
32Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o’r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.
33Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.