No themes applied yet
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt, 2Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r anifeiliaid a fwytewch, o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear. 3Beth bynnag a hollto’r ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. 4Ond y rhai hyn ni fwytewch; o’r rhai a gnoant eu cil ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti’r ewin; aflan fydd i chwi. 5A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi. 6A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi’r ewin; aflan yw i chwi. 7A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi. 8Na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.
9Hyn a fwytewch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch. 10A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych. 11Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o’u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy. 12Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.
13A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr-wennol; 14A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw; 15Pob cigfran yn ei rhyw; 16A chyw’r estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw; 17Ac aderyn y cyrff, a’r fulfran, a’r dylluan, 18A’r gogfran, a’r pelican, a’r biogen, 19A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. 20Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi. 21Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear; 22O’r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw. 23A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi. 24Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr. 25A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr. 26Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt. 27Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr. 28A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.
29A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a’r llygoden, a’r llyffant yn ei ryw; 30A’r draenog, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd. 31Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr. 32A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân. 33A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn; a thorrwch yntau. 34Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o’r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan. 35Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno; y ffwrn a’r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi. 36Eto glân fydd y ffynnon a’r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan. 37Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe. 38Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi. 39Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr. 40A’r hwn a fwyty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr. 41A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwytaer ef. 42Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd-dra ydynt. 43Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd. 44Oherwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. 45Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi. 46Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear; 47I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a’r hwn nis bwyteir.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.