No themes applied yet
1Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith-gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw. 2A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch. 3Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd; 4A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau. 5A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
6Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd-aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith-gwbl. 7Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd. 8A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch. 9Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 10A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 11A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.
12Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd. 13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch. 14Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 15A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 16A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd-aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd. 17Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.