No themes applied yet
1Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw. 2Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch. 3A’i holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a’r weren fol. 4A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 5A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw. 6Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw. 7Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a’i piau. 8A’r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe. 9A phob bwyd-offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymo. 10A phob bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd. 11Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i’r Arglwydd. 12Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda’r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew. 13Heblaw’r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda’i hedd-aberth o ddiolch. 14Ac offrymed o hyn un dorth o’r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd. 15A chig ei hedd-aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore. 16Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef; y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono. 17Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân. 18Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i’r hwn a’i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a’r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd. 19A’r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a’r cig arall, pob glân a fwyty ohono. 20A’r dyn a fwytao gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl. 21Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr. 24Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef. 25Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o’r hwn yr offrymir aberth tanllyd i’r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a’i bwytao o fysg ei bobl. 26Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o’r eiddo aderyn, nac o’r eiddo anifail. 27Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 29Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd. 30Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 31A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion. 32Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad, o’ch ebyrth hedd. 33Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a’r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan. 34Oherwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd, ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i’w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.
35Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd; 36Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 37Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd-offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cysegriadau, a’r aberth hedd; 38Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.