No themes applied yet
1Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a’i feibion, a henuriaid Israel; 2Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith-gwbl, a dwg hwy gerbron yr Arglwydd. 3Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith-gwbl, yn boethoffrwm; 4Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr Arglwydd; a bwyd-offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.
5A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a’r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr Arglwydd. 6A dywedodd Moses, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi. 7Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a’th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd.
8Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun. 9A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a’i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor. 10Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth dros bechod y gwêr a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 11A’r cig a’r croen a losgodd efe yn tân, o’r tu allan i’r gwersyll. 12Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 13A dygasant y poethoffrwm ato, gyda’i ddarnau, a’i ben hefyd; ac efe a’u llosgodd hwynt ar yr allor. 14Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac a’u llosgodd hwynt ynghyd â’r offrwm poeth ar yr allor.
15Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a’i lladdodd, ac a’i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf. 16Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a’i hoffrymodd yn ôl y ddefod. 17Ac efe a ddug y bwyd-offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a’i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore. 18Ac efe a laddodd y bustach a’r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a’i taenellodd ar yr allor o amgylch. 19Dygasant hefyd wêr y bustach a’r hwrdd, y gloren, a’r weren fol, a’r arennau, a’r rhwyden oddi ar yr afu. 20A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor. 21Y parwydennau hefyd, a’r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynnodd Moses. 22A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a’u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a’r poethoffrwm, a’r ebyrth hedd. 23A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl. 24A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.