No themes applied yet
1Yn gymaint â darfod i lawer gymryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddi-amau yn ein plith, 2Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair: 3Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn atat, O ardderchocaf Theoffilus, 4Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. 6Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. 7Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. 8A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, 9Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad. 11Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth. 12A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. 14A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. 15Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. 16A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. 17Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod. 18A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran. 19A’r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn. 20Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser. 21Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml. 22A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud. 23A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun. 24Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, 25Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.
26Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yng Ngalilea a’i henw Nasareth, 27At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Joseff, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair. 28A’r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd. 29A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn. 30A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyda Duw. 31Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. 32Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. 33Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd. 34A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr? 35A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw. 36Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn amhlantadwy. 37Canys gyda Duw ni bydd dim yn amhosibl. 38A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.
39A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Jwda; 40Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. 41A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân. 42A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. 43Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? 44Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth. 45A bendigedig yw’r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd. 56A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
57A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. 58A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. 59A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. 60A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. 61Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. 62A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. 63Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. 64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. 65A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. 66A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
67A’i dad ef Sachareias a gyflawnwyd o’r Ysbryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd, 68Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i’w bobl; 69Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr; 70Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd broffwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd: 71Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; 72I gwblhau’r drugaredd â’n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod: 73Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, 74Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddi-ofn, 75Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd. 76A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; 77I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, 78Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, 79I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd. 80A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.