No themes applied yet
1Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi. 2Hoffais chwi, medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr Arglwydd: eto Jacob a hoffais, 3Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a’i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch. 4Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a’r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. 5Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.
6Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di? 7Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd. 8Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i’th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd Arglwydd y lluoedd. 9Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o’ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd Arglwydd y lluoedd. 10A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o’ch llaw. 11Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i’m henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.
12Ond chwi a’i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig; a’i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus. 13Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd Arglwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a’r cloff, a’r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi? medd yr Arglwydd. 14Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.