No themes applied yet
1Ac wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i’w eneinio ef. 2Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi. 3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd? 4(A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn. 5Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant. 6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. 7Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. 8Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
9A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid. 10Hithau a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain. 11A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
12Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau ohonynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad. 13A hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
14Ac ar ôl hynny efe a ymddangosodd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwyta; ac a ddanododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon-galedwch, am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi atgyfodi. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. 16Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir. 17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; ac â thafodau newyddion y llefarant; 18Seirff a godant ymaith; ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
19Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw. 20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.