No themes applied yet
1Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd. 2Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 3Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; 4Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. 5Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: 6Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. 7Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu. 8Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad. 9Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau; 10Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.
16Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. 24Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i arglwydd. 25Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef? 26Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir. 27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai. 28Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern. 29Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi. 30Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. 31Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to. 32Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: 33A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 34Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. 35Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. 36A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun. 37Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. 38A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. 39Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.
40Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.