No themes applied yet
1Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, 2Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. 3Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt. 4Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. 5Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; 6A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, 7A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. 8Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. 9Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. 11A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. 12A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn. 14Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy. 15Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain. 16Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18A phwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled. 19Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hyn oll sydd arni. 21A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni. 23Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. 24Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel. 25Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb. 26Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd. 29Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn; 30Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi. 31Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi. 32Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. 33O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?
34Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref. 35Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor. 36Yn wir meddaf i chwi, Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. 37Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.