No themes applied yet
1A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 2Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw.
3Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, 4Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. 5Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd. 6A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw. 7Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. 8Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw. 9(Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel; 10Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) 11A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 12A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. 13Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? 14Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. 15Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. 16Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. 17Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? 18Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef. 20A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. 21A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. 22Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. 23A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.
24A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. 25A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
26Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio. 27Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. 28A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.
29A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. 30A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. 31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. 32Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.
33A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, 34Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. 35Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. 36A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: 37A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. 38Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.
39A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, 40A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. 41A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, 42Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. 43Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. 44A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. 45Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 46Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 47A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. 48Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. 49A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef.
50A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. 51Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: 52A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, 53Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. 54Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. 55Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: 56Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
57Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: 58Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff. 59A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, 60Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar-ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat, 63Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf. 64Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf. 65A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch. 66A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.