No themes applied yet
1A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill. 2A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.
3A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon. 4A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres; 5Maaseia hefyd mab Baruch, fab Col-hose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni. 6Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus. 7A dyma feibion Benjamin; Salu mab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia. 8Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain. 9A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas. 10O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin. 11Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ Dduw. 12A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia, 13A’i frodyr, pennau-cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer, 14A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt. 15Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni. 16Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ Dduw. 17Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o’i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn. 18Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain. 19A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.
20A’r rhan arall o Israel, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth. 21Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid. 22A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw. 23Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd. 24A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl. 25Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer-arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi, 26Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth-phelet, 27Ac yn Hasar-sual, ac yn Beerseba a’i phentrefi, 28Ac yn Siclag, ac ym Mechona ac yn ei phentrefi, 29Ac yn En-rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth, 30Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom. 31A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi, 32Yn Anathoth, Nob, Ananeia, 33Hasor, Rama, Gittaim, 34Hadid, Seboim, Nebalat, 35Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr. 36Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.