No themes applied yet
1Ac wedi adeiladu y mur, a chyfodi ohonof y dorau, a gosod y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid; 2Yna mi a orchmynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananeia tywysog y palas yn Jerwsalem, canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer: 3A mi a ddywedais wrthynt, Nac agorer pyrth Jerwsalem nes gwresogi yr haul; a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y drysau, a phreniant: a mi a osodais wylwyr o drigolion Jerwsalem, pob un yn ei wyliadwriaeth, a phob un ar gyfer ei dŷ. 4A’r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a’r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.
5A’m Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a’r bobl, i’w cyfrif wrth eu hachau. A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig ynddo, 6Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; 7Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel; 8Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain. 9Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. 10Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain. 11Meibion Pahath-moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg. 12Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 13Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain. 14Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 15Meibion Binnui, chwe chant ac wyth a deugain. 16Meibion Bebai, chwe chant ac wyth ar hugain. 17Meibion Asgad, dwy fil tri chant a dau ar hugain. 18Meibion Adonicam, chwe chant a saith a thrigain. 19Meibion Bigfai, dwy fil a saith a thrigain. 20Meibion Adin, chwe chant a phymtheg a deugain. 21Meibion Ater o Heseceia, tri ar bymtheg a phedwar ugain. 22Meibion Hasum, tri chant ac wyth ar hugain. 23Meibion Besai, tri chant a phedwar ar hugain. 24Meibion Hariff, cant a deuddeg. 25Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar ugain. 26Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain. 27Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 28Gwŷr Beth-asmafeth, dau a deugain. 29Gwŷr Ciriath-jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 30Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 31Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 32Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain. 33Gwŷr Nebo arall, deuddeg a deugain. 34Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 35Meibion Harim, tri chant ac ugain. 36Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 37Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant ac un ar hugain. 38Meibion Senaa, tair mil naw cant a deg ar hugain.
39Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain. 40Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 41Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 42Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
43Y Lefiaid: meibion Jesua, o Cadmiel, ac o feibion Hodefa, pedwar ar ddeg a thrigain.
44Y cantorion: meibion Asaff, cant ac wyth a deugain.
45Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, cant a thri ar bymtheg ar hugain.
46Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 47Meibion Ceros, meibion Sïa, meibion Padon, 48Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai, 49Meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar, 50Meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda, 51Meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Phasea, 52Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim, 53Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 54Meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa, 55Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 56Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
57Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida, 58Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 59Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon. 60Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain. 61A’r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel-mela, Tel-haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt. 62Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.
63Ac o’r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt. 64Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 65A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.
66Yr holl gynulleidfa ynghyd oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain. 67Heblaw eu gweision hwynt a’u morynion, y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant a phump a deugain o gantorion ac o gantoresau. 68Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a’u mulod yn ddau cant a phump a deugain; 69Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.
70A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i’r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid. 71A rhai o’r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o arian. 72A’r hyn a roddodd y rhan arall o’r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid. 73A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r porthorion, a’r cantorion, a rhai o’r bobl, a’r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.