No themes applied yet
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail fis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd, 2Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau; 3O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd. 4A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau.
5A dyma enwau’r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur. 6O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai. 7O lwyth Jwda; Nahson mab Aminadab. 8O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar. 9O lwyth Sabulon; Elïab mab Helon. 10O feibion Joseff: dros Effraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 11O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni. 12O lwyth Dan; Ahieser mab Ammisadai. 13O lwyth Aser; Pagiel mab Ocran. 14O lwyth Gad; Elisaff mab Deuel. 15O lwyth Nafftali; Anira mab Enan. 16Dyma rai enwog y gynulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau, penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.
17A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau; 18Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau. 19Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.
20A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel; 21Y rhai a rifwyd ohonynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant.
22O feibion Simeon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a allai fyned i ryfel; 23Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil trigain mil a thri chant.
24O feibion Gad, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel; 25Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.
26O feibion Jwda, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 27Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Jwda, oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.
28O feibion Issachar, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 29Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
30O feibion Sabulon, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 31Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Sabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.
32O feibion Joseff, sef o feibion Effraim, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 33Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Effraim, oedd ddeugain mil a phum cant.
34O feibion Manasse, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 35Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasse, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
36O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 37Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.
38O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 39Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant.
40O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 41Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.
42O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 43Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 44Dyma’r rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau. 45Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel; 46A’r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
47Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt: 48Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 49Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion Israel. 50Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt-hwy a ddygant y babell, a’i holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell. 51A phan symudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso’r babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos. 52A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei luman ei hun, trwy eu lluoedd. 53A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth. 54A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.