No themes applied yet
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth. 2A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth. 3A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd. 4Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch. 5Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel. 6Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. 7Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragwyddol. 9Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd-offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion. 10O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a’i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti. 11Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono. 12Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, a roddais i ti. 13Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono. 14Pob diofryd-beth yn Israel fydd eiddot ti. 15Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf-anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf-anedig i’r anifail aflan. 16A phâr brynu y rhai a bryner ohonot, o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny. 17Ond na phrŷn y cyntaf-anedig o eidion, neu gyntaf-anedig dafad, neu gyntaf-anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 18Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti. 19Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyda thi.
20A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel. 21Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw. 23Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel. 24Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
25A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm. 27A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwinwryf. 28Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael-offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad. 29O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef. 30A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf. 31A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.