No themes applied yet
1A thrigodd Israel yn Sittim; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab. 2A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt. 3Ac ymgyfeillodd Israel â Baal-peor; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel. 4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel. 5A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal-peor.
6Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod. 7A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law; 8Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babell; ac a’u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel. 9A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain.
10A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 11Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd. 12Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch. 13A bydd iddo ef, ac i’w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymod dros feibion Israel. 14Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees, oedd Simri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon. 15Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.
16A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 17Blina’r Midianiaid, a lleddwch hwynt: 18Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.