No themes applied yet
1Y neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth. 2Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun. 3Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd. 4Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo. 5Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn. 6Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau. 7Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagl i’w enaid. 8Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol. 9Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar. 10Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel. 11Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun. 12Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd. 13Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo. 14Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd? 15Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth. 16Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid. 17Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef. 18Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn. 19Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell. 20A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef. 21Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef. 22Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd. 23Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin. 24Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.