No themes applied yet
1Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl. 2Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha. 3Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd. 4Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog. 5Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc. 6Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael. 7Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato. 8A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni. 9Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir. 10Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid. 11Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd. 12Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt. 13Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus. 14Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog. 15Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna. 16Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw. 17Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn. 18Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha. 19Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn. 20Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd. 21Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif. 22Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog. 23Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef. 24Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau. 25Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth. 26Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr. 27Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth. 28Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd. 29Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.