No themes applied yet
1Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a’i try hi lle y mynno. 2Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau. 3Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth. 4Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod. 5Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig. 6Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau. 7Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn. 8Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith. 9Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang. 10Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef. 11Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth. 12Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni. 13Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef. 14Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf. 15Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd. 16Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw. 17Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog. 18Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn. 19Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon. 20Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt. 21Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd. 22Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno. 23Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder. 24Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch. 25Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio: 26Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed. 27Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg? 28Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad. 29Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd. 30Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr Arglwydd. 31Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.