No themes applied yet
1Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi. 2Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad. 3Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon. 4Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares: 5Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus.
6Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt, 7A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo, 8Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi, 9Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll: 10Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar. 11(Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ: 12Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.) 13Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho, 14Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned: 15Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat. 16Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft. 17Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon. 18Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad. 19Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell: 20Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol. 21Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef. 22Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi: 23Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
24Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau. 25Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi. 26Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi. 27Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.