No themes applied yet
SALM 116
1Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau.
2Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
3Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais.
4Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
5Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
6Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd.
7Dychwel, O fy enaid, i’th orffwysfa; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt.
8Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro.
9Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw.
10Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
11Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.
12Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi?
13Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.
14Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
15Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef.
16O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
17Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd.
18Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
19Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.