No themes applied yet
SALM 118
1Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
2Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
3Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
4Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
5Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder.
6Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?
7Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
8Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn.
9Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.
10Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
11Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
12Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
13Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a’m cynorthwyodd.
14Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.
15Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.
16Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster.
17Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.
18Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
19Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.
20Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
21Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.
22Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.
23O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.
24Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
25Atolwg, Arglwydd, achub yn awr: atolwg, Arglwydd pâr yn awr lwyddiant.
26Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd.
27Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
28Fy Nuw ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw.
29Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.