No themes applied yet
SALM 130
Caniad y graddau.
1O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd.
2Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
3Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif?
4Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner.
5Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
6Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore.
7Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef.
8Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.