No themes applied yet
SALM 134
Caniad y graddau.
1Wele, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd, y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos.
2Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr Arglwydd.
3Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.