No themes applied yet
SALM 148
1Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
2Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
3Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
4Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
6A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
7Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:
8Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
9Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:
10Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
11Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
12Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
13Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
14Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.