No themes applied yet
SALM 150
1Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
2Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
3Molwch ef â llais utgorn: molwch ef â nabl ac â thelyn.
4Molwch ef â thympan ac â dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.
5Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.
6Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.