No themes applied yet
SALM 25
Salm Dafydd.
1Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
2O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf.
3Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.
4Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau.
5Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.
6Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy.
7Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd.
8Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.
9Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.
10Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.
11Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddau fy anwiredd: canys mawr yw.
12Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r Arglwydd? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.
13Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear.
14Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt.
15Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd.
16Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.
17Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau.
18Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau.
19Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant.
20Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.
21Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthyt.
22O Dduw, gwared Israel o’i holl gyfyngderau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.