No themes applied yet
SALM 35
Salm Dafydd.
1Dadlau fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi.
2Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth.
3Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.
4Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu.
5Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid.
6Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.
7Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid.
8Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.
9A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
10Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb a’i hysbeilio?
11Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
12Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid.
13A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun.
14Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.
15Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
16Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.
17Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.
18Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer.
19Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.
20Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.
21Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, ha, gwelodd ein llygad.
22Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O Arglwydd.
23Cyfod, a deffro i’m barn, sef i’m dadl, fy Nuw a’m Harglwydd.
24Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid.
25Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.
26Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn.
27Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei was.
28Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.