No themes applied yet
SALM 42
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
1Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw.
2Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw?
3Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?
4Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
5Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
6Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar.
7Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi,
8Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes.
9Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
10Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?
11Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.