No themes applied yet
SALM 50
Salm Asaff.
1Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.
2Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.
3Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.
4Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
5Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.
6A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela.
7Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi.
8Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
9Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau.
10Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.
11Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.
12Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi.
13A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod?
14Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau:
15A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.
16Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau?
17Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.
18Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr.
19Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.
20Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.
21Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.
22Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.
23Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.