No themes applied yet
SALM 56
I’r Pencerdd ar Jonath-elem-rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
1Trugarha wrthyf, O Dduw: canys dyn a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma.
2Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O Dduw Goruchaf.
3Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.
4Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.
5Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.
6Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.
7A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd.
8Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
9Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi.
10Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.
11Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
12Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
13Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.