No themes applied yet
SALM 58
I’r Pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd.
1Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion?
2Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear.
3O’r groth yr ymddieithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
4Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau;
5Yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr.
6Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau: tor, O Arglwydd, gilddannedd y llewod ieuainc.
7Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.
8Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.
9Cyn i’ch crochanau glywed y mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint.
10Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.
11Fel y dywedo dyn, Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.