No themes applied yet
SALM 7
Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r Arglwydd oblegid geiriau Cus mab Jemini.
1Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi.
2Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
3O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
4O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
5Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
6Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist.
7Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.
8Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
9Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau.
10Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
11Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
12Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
13Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
14Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.
15Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
17Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.