No themes applied yet
SALM 75
I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm neu Gân Asaff.
1Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.
2Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.
3Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.
4Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
5Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.
6Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.
7Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
8Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
9Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob.
10Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.