No themes applied yet
SALM 8
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
1Arglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.
2O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.
3Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist;
4Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef?
5Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch.
6Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:
7Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;
8Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
9Arglwydd ein IÔR, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.