No themes applied yet
1Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw. 2Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nod ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt. 3A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint. 4Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd. 5Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored: 6A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o’r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur. 7Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd. 8A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.