No themes applied yet
1A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; 2Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi. 3Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn. 4A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra. 5Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA’R DDAEAR. 6Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr. 7A’r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â’r saith ben ganddo, a’r deg corn. 8Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod. 9Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae’r wraig yn eistedd arnynt. 10Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a’r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig. 11A’r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw’r wythfed, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned. 12A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil. 13Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil. 14Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen, a’r Oen a’u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a’r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon. 15Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle mae’r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd. 16A’r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a’i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a’i llosgant hi â thân. 17Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw. 18A’r wraig a welaist, yw’r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.