No themes applied yet
1O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth. 2Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth. 3Canys hwynt-hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. 4Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. 5Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt. 6Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:) 7Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,) 8Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; 9Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. 10Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. 11Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. 12Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. 13Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. 14Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant, heb bregethwr? 15A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn ysgrifenedig, Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu tangnefedd, y rhai sydd yn efengylu pethau daionus! 16Eithr nid ufuddhasant hwy oll i’r efengyl: canys y mae Eseias yn dywedyd, O Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? 17Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. 18Eithr meddaf, Oni chlywsant hwy? Yn ddiau i’r holl ddaear yr aeth eu sŵn hwy, a’u geiriau hyd derfynau y byd. 19Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf, y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wynfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus y’ch digiaf chwi. 20Eithr y mae Eseias yn ymhyfhau, ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf. 21Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.