No themes applied yet
1Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 2Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. 3Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: 4Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. 5Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. 6Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: 7Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. 8A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. 9Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 11Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. 12Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. 13Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. 14Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 15Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. 16Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 17Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ: os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. 18Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. 19Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. 20Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: 21Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw. 22Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn. 23Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff. 24Canys trwy obaith y’n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio? 25Ond os ydym ni yn gobeithio’r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano. 26A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf-anedig ymhlith brodyr lawer. 30A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. 31Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.