Hyd yn oed os mai dim ond cyfrif neu arllwys yw rhai o'r tasgau, dylech gynnwys pawb wrth wneud pryd o fwyd gyda'ch gilydd.
Gellir dod o hyd i syniadau basged anrhegion ar Pinterest
Neu
(gweler y ciwb yn yr adran ‘Gwnewch’ isod), llenwch gyda rhai o’r eitemau o’r gweithgareddau eraill fel y blodau papur sidan neu flodyn mewn pot a nythod wyau siocled a rhowch y rhain i gymydog neu ffrind.
Os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi chwarae pob gêm fwrdd sydd gennych ormod o weithiau eleni beth am ddewis llythyren o'r wyddor a gosod amserydd a gweld faint o eitemau sy'n dechrau gyda'r llythyren honno y gallwch chi ei gael? Y llythyren B er enghraifft: bara, bocs, balwn, botwm…
Neu
Chwaraewch siarâds ar thema'r Pasg (cymerwch syniadau o'r llyfryn).
Ceisiwch recordio'r newyddion diweddaraf gan eich teulu a'i anfon at aelodau'r teulu. Mae Wetransfer yn blatfform am ddim ar gyfer anfon ffeiliau mawr.
Defnyddiwch dempled ciwb, sy'n dechrau fel croes, i wneud ciwb gweddi.