Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Yn ystod y cyfnod clo, rwyf wedi dod yn llawer agosach at Dduw. O'r blaen, roeddwn bob amser mor brysur. Roedd fy hen-nain yn arfer darllen y Beibl, ond roedden ni'n ei gadw mewn man arbennig. Adeg y Pasg, roeddwn i'n teimlo'n llawer agosach at Dduw ac Iesu, felly gofynnais i'm rhieni gael Beibl i mi. Roeddwn i eisiau rhywbeth a oedd yn hawdd ei ddarllen.

‘Fe wnaethon nhw brynu llyfr o straeon Beiblaidd i mi. Mae'n teimlo fel llyfr stori. Rwy'n ei hoffi oherwydd ei fod wedi ei ddarlunio ac mae’n hawdd ei ddarllen. Gallaf ei ddarllen i'm brodyr wrth iddynt dyfu i fyny.

‘Rwy'n hoffi darllen yn fawr, felly mae'n braf darllen llyfr fel hwn. Ddoe, darllenais am Jacob ac Esau. Mae'n stori eithaf anodd, ond mae'n dangos i chi nad yw cenfigen yn werth chweil. Rwyf hefyd yn darllen ychydig o Twilight.

‘Mae gen i berthynas newydd gyda Duw nawr. O'r blaen, roeddem yn brysur iawn gyda chlybiau, clybiau, clybiau ac nid oedd amser i fyfyrio. Ond nawr, o fod gartref, mae cyfle i fyfyrio ar fywyd. Rwy’n teimlo bod Duw gyda mi yn y pandemig, sy’n gwneud i mi deimlo’n gysurus mewn ffordd, ac yn ddiogel.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible