Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Ni allwn fyw heb y Salmau, yn enwedig pan fu farw fy ngŵr. Cyfarfu Steve a minnau yn y brifysgol. Buom yn briod am 34 mlynedd. Roedd o’n sant, yn dosturiol ac yn ddireidus.

‘Pan briodon ni, roeddwn i'n gwybod bod ganddo salwch dirgel. Ar ôl pum mlynedd, dysgodd mai Sglerosis Ymledol ydoedd. Roeddem wedi bod yn briod 10 mlynedd pan ddechreuodd waethygu. Aeth yn waeth ac yn waeth nes iddo gael ei barlysu o'r gwddf i lawr yn ei flynyddoedd olaf. Ni allai wneud unrhyw beth drosto'i hun. Gallai lyncu ac roedd yn iawn yn feddyliol, felly gwnaeth weddi ei waith. Gofynnodd i bawb beth y gallai ei wneud drostyn nhw, gweddïodd dros bawb y cyfarfu â nhw.

‘Roedden ni'n fyfyrwyr yn y saithdegau ac fe wnaethon ni ganu llawer o ysgrythurau. Un oedd Salm 34: "Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau... Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau." Roeddwn yn dal i ganu hwn pan ddaeth y brofedigaeth. Dyna beth sy'n rhaid i chi ei wneud. Sut arall ydych chi'n gwneud synnwyr ohono? Mae'n cadw'r berthynas â Duw i fynd pan, fel dwi'n dweud, nad oes gennych chi eiriau eich hun i weddïo.'

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible