Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Rwyf wrth fy modd â stori’r briodas yng Nghana yn Ioan 2, lle mae Iesu’n troi dŵr yn win.

Mae wir yn dangos dynoldeb Iesu mewn ffordd gref iawn, iddo ddewis ei wyrth gyntaf i wneud pobl yn hapus.

‘Mae o braidd yn biwis gyda’i fam, wyddoch chi, yn dweud wrthi “Wraig, nid yw fy amser wedi dod eto”, ond mae wir eisiau i’r parti fod yn barti da. Mae'r holl nodweddion dynol yno. Mae yna garedigrwydd, mae yna gariad at bobl eraill. Mae'n cymysgu nodweddion Duw a nodweddion dynol.

‘Rwy’n hoffi meddwl bod Iesu’n gymaint yn ddynol ag yn Dduw, oherwydd mae’n ei wneud yn llawer haws mynd ato. Rwy'n meddwl ei fod hefyd yn dangos bod Duw eisiau'r gorau i ni. Dewisodd y gwin gorau posib, nid gwin rhad – nid y byddech chi'n disgwyl dim arall, ond mae'n dangos ei fod eisiau pethau da i ni.

‘Dw i wedi bod yn ffodus iawn yn fy mywyd. Mae gen i wraig hyfryd a thri mab hyfryd, pob un yn gwneud yn dda. Rydyn ni wedi cael ein siâr o salwch a thrallodion, ond rwyf wedi fy mendithio’n fawr.

‘Rwy’n bensaer, ac rwy’n hoffi dylunio gofodau parti – tai ar gyfer partïon. Mae ein tŷ ein hunain yn wych ar gyfer partïon ac rydym wedi cael partïon gwych - er nad wyf yn berson parti mewn gwirionedd. Ond mae gen i ymdeimlad o gyfoeth bywyd a bendithion y beunyddiol, a sut mae Duw yno yn y pethau bob dydd.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible